Llety  Cynadleddau   Priodasau   Gwyliau   Megabash  Teithiau Cerdded  Newyddion  Cysylltwch â ni

 

Mae ystad hanesyddol Craflwyn yn dyddio’n nôl i tua 1200 OC.    Yn y gorffennol bu’n rhan o fynachlog, cartref teuluol a chaban hela Fictoraidd, ond erbyn hyn mae’n ganolfan yn llawn adnoddau cynadledda  a gweithgareddau.  Saif mewn lleoliad trawiadol wrth droed yr Wyddfa, yn nyffryn Nantgwynant, lle ceir golygfeydd dramatig ac awyrgylch cyfareddol.

P’run ai chwilio am wyliau gwaith, lle ar gyfer digwyddiad arbennig, lleoliad priodas, lleoliad cynhadledd neu lety arbennig yng nghanol Eryri, ein nod yw darparu gwasanaeth wedi ei deilwrio’n arbennig ar eich cyfer.  Rydym yn cynnig prydau bwyd ardderchog ac amrediad eang o gyfleusterau a fydd yn sicr o fodloni’ch disgwyliadau.  Beth bynnag fo’ch rheswm dros ddod, fe fydd ymweliad â Chraflwyn yn brofiad bythgofiadwy.

Fe ddowch o hyd i Graflwyn y tu allan i bentref Beddgelert.  Gellir cyrraedd y safle ar droed gan ddilyn llwybr troed isel newydd sy’n rhedeg wrth ochr yr afon.  Mae amrediad llawn o wasanaethau ar gael yn y pentref gan gynnwys tafarndai, bistroau, tai bwyta, siopau a chanolfan wybodaeth.  Mae’r Wyddfa a’r hen Ddinas Emrys chwedlonol ill dau ar garreg y drws, a hefyd o fewn cyrraedd hwylus fe gewch amrediad eang o draethau, tai hanesyddol, gerddi a safleoedd archaeolegol.  

Credwn mai’r allwedd i lwyddiant pob digwyddiad unigol yw’r sylw a rown i fanylion: Ni fyddwn yn cymryd siawns.  Beth am gysylltu â ni ar 01766 510120 i weld sut y medrwn ni gwrdd â’ch anghenion?

 

Methu a chysylltu a'r basdata

Rhowch gynnig arall arni