Cartref     Llety     Gwyliau     Priodasau    Megabash    Teithiau Cerdded      Newyddion   Cysylltwch â ni

Cynadleddau

Prisiau cynadleddau

   

 Y lleoliad perffaith ar gyfer eich pwyllgor neu gynhadledd

Mae’r ganolfan gynadledda a gweithgareddau newydd yma gyda phob math o adnoddau yn eich galluogi i fod yn hyblyg ac mae’n cynrychioli gwerth eich arian. Bydd Craflwyn yn cyflwyno amrywiaeth eang o gynnyrch newydd a chyffrous ar gyfer y sectorau busnes, twristiaeth a hamdden.

Bydd pob cleient yn derbyn gwasanaeth unigol gan ein tîm i sicrhau pecyn neilltuedig o’r safon gorau. Rydym o’r farn mai sylw at fanylder sy’n gyfrifol am lwyddiant achlysur: does dim yn cael ei anwybyddu.

Atgyweiriwyd y ganolfan hon, sydd mewn lleoliad hyfryd, yn ofalus. Ymgorfforir llawer o’r nodweddion amgylcheddol mwyaf diweddar gan gynnwys gwresogi gyda’r haul, inswleiddio â gwlân a chryn ddefnydd o ddeunyddiau lleol a naturiol.

Mae’r ty yn brofiad ynddo’i hun gydag amrywiaeth o ystafelloedd cyfarfod a seminar, pob un â’i gymeriad arbennig ei hun. Defnyddiwch ein 2 ystafell seminar awyr agored neu ystafell haul i sicrhau’r budd mwyaf o’r tirlun hardd o gwmpas yn ystod eich sesiynau hyfforddi.

Llety

Mae llety ar gael yn y neuadd a atgyweiriwyd yn ddiweddar, ac mae lle i 14 gysgu mewn 8 ystafell gyda’r mwyafrif ohonynt yn ‘en-suite’.

Mae’r hafod, sydd wedi’i leoli yn yr hen stablau yn darparu llety i gyfanswm o 12 o bobl.

Gellir hefyd archebu llety yng Nghraflwyn yn breifat.