Cartref     Llety     Cynadleddau     Priodasau    Megabash    Teithiau Cerdded    Newyddion    Cysylltwch â ni

Gwyliau

Rhaglen wyliau

   

 

Dathlu, Mwynhau’r Cyffro, Ymlacio

Craflwyn yw’r lle delfrydol ar gyfer dathliadau teuluol,  boed honno’n ben-blwydd neu’n ben-blwydd priodas arbennig neu’n gyfle i roi’r byd yn ei le efo’r teulu neu ffrindiau.

Mae safle Craflwyn yn ddelfrydol hefyd i’r rhai hynny sy’n mwynhau gweithgareddau awyr agored, gyda’i llwybrau cerdded godidog ar garreg y drws a’r gweithgareddau marchogaeth ceffylau, dringo a chanwio lleol.

Neu mae’n gyfle i ymlacio a mwynhau ein hystad 200 acer.

Cliciwch yma am fanylion llety a phrisiau.

Gwyliau Gwaith

“Dyma’r amser gorau i mi erioed ei gael  yn cadw’n heini.  Bwyd da a dysgu sgiliau newydd yn y wlad gyda phobl â’r un diddordeb.”

Mae gwyliau gwaith yn cynnig hwyl, ansawdd, a’r ymdeimlad o fod wedi medru cyflawni rhywbeth.  Dyma gyfle i wneud gwahaniaeth arwyddocaol i’r wlad drwy ymgymryd ag amrywiaeth o dasgau cadwraeth dan oruchwyliaeth.  Ar yr un pryd gallwch fwynhau un o dirluniau mwyaf dramatig Prydain.

Fe fydd gweithgareddau’r wythnos yn ddibynnol ar ba wyliau a ddewisoch.  Mae rhai yn cynnwys tasgau amgylcheddol ymarferol.  I rai eraill, fe fydd thema neu ffocws, ac felly fe fydd eich gweithgareddau yn canolbwyntio ar gwblhau prosiect arbennig.  Pwy bynnag wyliau a ddewiswch, fe fyddwch yn profi’r boddhad o weithio mewn tîm i gwblhau tasg gwerthchweil, gan ddysgu sgiliau newydd yn aml wrth i chi weithio ochr yn ochr â’n tim gwledig profiadol.

Gall Craflwyn gynnig dau fath o le i aros ar y gwyliau gwaith.  Mae’r rhai hynny ddaw ar y gwyliau cyffredin yn aros yn y ‘ty byncer’, gyda nifer o welyau mewn un ystafell.   I’r rhai hynny sydd am dipyn bach o foethusrwydd, gallwch aros yn y Neuadd mewn ystafell dau wely ac en-suite os dewiswch y gwyliau ‘premiwm’ .

Am fanylion y gwyliau gwaith, cysylltwch â swyddfa bwcio gwyliau gwaith yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar 0870  4 29 24 29 neu ymwelwch â’r wefan:- Gwyliau Gwaith.