e

Cartref     Llety     Cynadleddau     Gwyliau    Priodasau    Megabash    Teithiau Cerdded    Newyddion    Cysylltwch â ni

Hanes

Credir mai tarddiad y gair Craflwyn yw “Criafolen”

Mae hanes ystad Craflwyn y dyddio’n ôl i 1200 ar ôl Crist, pan roddodd y Tywysog Llywelyn Fawr y tir, a oedd yn rhan o faestref Nanhwynain, i’r Mynaich Sistersiaidd. Tan 1536, ffermiwyd y tir gan y Mynaich Sistersiaidd fel rhan o faenor fynachaidd oedd yn cynnwyr yr holl faestref. Yn dilyn 1536 a diddymiad y mynachlogydd, ffermiwyd y tir a’i brynu’n ddiweddarach gan Maredudd ab Ieuan, a fu gynt yn stiward ar dir mynachaidd yn Nantgwynant, ac a osododd seiliau’r teulu Wynn o Gwydir, gynt o Ddolwyddelan.

Trosglwyddwyd yr ystad i berchnogaeth y teulu Jones, mae’n debyg drwy briodas wyres Maredudd ap Ieuan, Annes, â Morys Jones, ac erbyn 1604 roedd wedi datblygu’n ystad fonedd. Mae’n debygol yr ailadeiladwyd y ty ar ddechrau’r ail ganrif ar bymtheg.

Erbyn canol y ddeunawfed ganrif, gadawodd y teulu gan osod y lle i denantiaid fel modd o greu incwm,  ac fe’i trosglwyddwyd,  drwy berthnasau, i’r teulu Parry.

Yn 1873, ailadeiladodd Llywelyn Parry yr hen ffermdy fel plas bychan, gan sefydlu’r gerddi coediog, y planhigfeydd, cartref y fferm a’r porthdy.  Ei lythrennau ef sydd i’w gweld ynghyd â’r dyddiad “1873” ar y plac ar derfyn gebl y porthdy.  Er iddo fyw ar yr ystad gyda’i deulu am gyfnod byr, fe barhaodd i’w gosod nes ei gwerthu yn 1895, gan ddirwyn i ben y cysylltiad teuluol â Chraflwyn oedd wedi para o leiaf dri chan mlynedd.

Trosglwyddwyd yr ystad o berchennog i berchennog hyd nes y’i phrynwyd hi gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 1994.  Roedd yr ystad wedi ei hesgeuluso, ac fe gychwynnodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar raglen o adfer y ty, gerddi, coetir a’r parciau.  Mae ei agosrwydd i’r Dinas Emrys chwedlonol, a’r Wyddfa, yn cyfrannu i bwysigrwydd yr ystad fel ffocws i weithgareddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Nantgwynant.