| |
||||
| Cartref Cynadleddau Gwyliau Priodasau Megabash Teithiau Cerdded Newyddion Cysylltwch â ni |
||||
|
|
||||
|
Llety |
|
|
||
|
Mae Canolfan Craflwyn yn darparu amrywiaeth hyblyg. Gallwch ddewis aros yn y neuadd, a arferai fod yn gartref i wˆr bonheddig Fictoraidd; neu yr hafod; neu gyfuniad o'r ddau. Dewch i fwynhau’r lleoliad hardd wrth droed Yr Wyddfa ac archwilio’r goedlan naturiol hynafol a nodweddion mynyddig y cwm. Mae llwybr troed lefel isel newydd ar lan yr afon yn eich tywys y filltir o’r neuadd i bentref hanesyddol Beddgelert. Yma mae sawl tafarn, bistro, caffi, siop a chanolfan wybodaeth. Amgylchynnir y pentref gan fynyddoedd; mae’n ganolbwynt i deithiau cerdded mynyddog a lefel isel. Ceir amrywiaeth eang o atyniadau o fewn tafliad carreg - ceir rhywbeth at chwaeth pawb: traethau, tai hynafol, gerddi, safleoedd archeolegol a geolegol a llawer mwy. Mae ein staff bob amser yn barod i’ch cyfeirio at y mannau hyn. Llety Mae llety ar gael yn y neuadd a atgyweiriwyd yn ddiweddar, ac mae lle i 14 gysgu yma. Mae mwyafrif yr 8 ystafell yn ‘en-suite’. Yn ychwannegol i'r ystafelloedd gwely, mae yna ystafell gyfarfod/fwyta, llyfrgell, ystafell seminar (i 15 o bobol) ac ystafell sychu. Mae’r hafod, sydd wedi’i leoli yn yr hen stablau yn darparu llety i gyfanswm o 12 o bobl. Ceir nifer o ystafelloedd gwhanol. Mae yna ystafell fwyta/lolfa yn ogystal â chegin a chyfleusterau arlwyo. Gellir rhannu'r hafod ar gyfer 5 neu 7 os oes llai na 12 yn eich grwp. Mae llety ar gael ar sail hunan arlwyaeth: neu cysylltwch â ni i drefnu arlwyaeth yn ôl eich anghenion.
|
|
|||