H

Cartref     Llety     Cynadleddau     Gwyliau     Priodasau    Teithiau Cerdded    Newyddion    Cysylltwch â ni

CYHOEDDIAD - DIM MEGABASH

Os y cawsoch eich siomi oherwydd bod Megabash Craflwyn wedi cael ei ganslo, pam ddim bwcio lle ar y Devil's Dyke Megabash?

Devil's Dyke Megabash

 

Bydd unrhyw un sydd eisoes wedi archebu lle ar y Megabash wrth gwrs yn derbyn ad-daliad llawn.  Byddwn yn cysylltu â chi fesul un yn gynnar yr wythnos nesaf.

Annwyl bawb,

Yn anffodus iawn, yr wyf wedi dod i’r penderfyniad o ganslio’r Megabash oedd i’w chynnal y flwyddyn nesaf.

Gwyddaf y bydd nifer o bobl yn hynod siomedig o glywed y newyddion hwn.  Mae Clive a Jenni yn enwedig wedi gwneud ymdrech fawr i gynllunio’r digwyddiad yn barod.

Ers penderfynu ailadrodd Megabash llwyddiannus 2004, mae’r newidiadau i’r sefyllfa staffio yng Nghraflwyn yn golygu na ellir mwyach drefnu’r fath achlysur ar raddfa mor eang.  Bu’n rhaid mynd i’r afael â’r fath newidiadau yn dilyn rhewi swydd Rheolwr Eiddo, a’r cynnydd o ganlyniad yn llwyth gwaith dyddiol yr adeilad hon.

Mae staff  Craflwyn yn awr yn gyfrifol am y gwasanaethau ymwelwyr a thargedau gwirfoddoli drwy’r cyfan o’r eiddo newydd – nid Beddgelert yn unig.  Yn ogystal â hyn, 20 mis yn unig sydd gennym yn weddill cyn i arian Amcan 1 Craflwyn redeg allan.  Yn ystod y cyfnod hwn, rhaid i ni sefydlu Craflwyn fel canolfan a all ei hariannu ei hun fel canolfan wirfoddoli o’r safon uchaf.  Penderfynais y byddai cynnal y Megabash yn achosi i’r tîm wyro oddii wrth eu prif flaenoriaeth yn creu llwyddiant tymor hir i Graflwyn – ac y byddai wedi golygu llai o welliannau ar gyfer ymwelwyr yn yr adeiladau y tymor nesaf.

Gobeithio y byddwch yn deall pam y bu’n rhaid i mi ddod i benderfyniad mor anodd.

Richard Neale

Rheolwr Eiddo Gorllewin Eryri a Llyn